Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 11 Ionawr 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:45 - 11:30 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Mark Drakeford (Cadeirydd) Mick Antoniw Rebecca Evans Vaughan Gething William Graham Elin Jones Darren Millar Lynne Neagle Lindsay Whittle Kirsty Williams |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Lesley Griffiths, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dr Gwyn Thomas, y Prif Swyddog Gwybodaeth, Welsh Government Yr Athro Roger Walker, y Prif Swyddog Fferyllol, Welsh Government Andrew Evans, Welsh Government |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Llinos Dafydd (Clerc) Catherine Hunt (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Stephen Boyce (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.
2. Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn - trafod amserlen yr ymchwiliad a phenodi cynghorydd arbenigol
2.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod amserlen yr ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn a phenodi cynghorydd arbenigol.
2.2 Daeth y Pwyllgor i gytundeb ynghylch yr amserlen a chlustnodi themâu allweddol i aelodau unigol. Ni ddaeth y Pwyllgor i gytundeb ynghylch manyleb swydd y cynghorydd arbenigol, ac o’r herwydd, methodd ag enwebu ymgeisydd addas. Cytunodd yr aelodau i ddirprwyo gwaith pellach ynghylch manyleb swydd y cynghorydd arbenigol ac ymgeiswyr posibl i’r Cadeirydd.
3. Y Bil Drafft ynghylch Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) - trafod y dull o ystyried y Bil drafft
3.1 Nododd y Pwyllgor gyhoeddi’r Bil Drafft ynghylch Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru).
3.2 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dull o ystyried y Bil drafft a chytunodd y dylai ofyn am wasanaeth briffio gan swyddogion Llywodraeth Cymru. Cytunodd y Pwyllgor mai pwrpas y hyn fyddai er mwyn bod yn ymwybodol o ddatblygiadau gyda’r Bil drafft yn hytrach na mynegi barn am ei gynnwys.
4. Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - tystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
4.1 Bu’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’i swyddogion yn ymateb i gwestiynau am y cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru.
4.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu copi o’r papur a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn ar iechyd y cyhoedd ynghylch gwerthuso cynllun mân anhwylderau fferyllfeydd cymunedol yn ngogledd-ddwyrain Lloegr.
5. Papurau i'w nodi
5.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol, llythyron gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, a’r dystiolaeth ysgrifenedig ychwanegol a gafwyd ynghylch y cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.